Cofnodion Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni

Noddir gan Mark Isherwood AS

 

Dyddiad: 28 Tachwedd 2022, 10:30 – 12:00

Lleoliad: Zoom

 

Yn bresennol

 

Deiliaid Swyddi’r Grŵp Trawsbleidiol

Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

Sioned Williams AS

Rhys Taylor (ar ran Jane Dodds AS)

Ioan Bellin (ar ran Rhys ab Owen AS)

Billy Jones (ar ran Luke Fletcher AS)

Cathy Bevan (ar ran Huw Irranca-Davies AS)

 

Rhanddeiliaid

Ben Saltmarsh (NEA), Hayden Banks (NEA), Mike Potter (NEA), Jane Hutt AS (y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol), Claire Durkin (Ymddiriedolwr NEA), Cara Holmes (Cyngor ar Bopeth Cymru), Rose Forman (Propertymark), Becky Ricketts (Gofal a Thrwsio Cymru), Sandy Hore-Ruthven (Asiantaeth Ynni Severn Wye), Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd), Y Parchedicaf Andy John (Archesgob Cymru), Crispin Jones (Gwerin Management), James Calder (Liquid Gas UK), William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion), Steven Reynolds (Cyd Innovation), Haf Elgar (Cyfeillion y Ddaear Cymru), David Cowdrey (Sefydliad Elusennol MCS), Danny Grehan (Senedd), Martin Campbell (Ofgem), Simon Lannon (Prifysgol Caerdydd), Lee Phillips (y Gwasanaeth Arian a Phensiynau), Joshua Lovell (NRLA), Ryland Doyle (Senedd), Bethan Sayed (Climate Cymru), Faye Patton (Gofal a Thrwsio Cymru), Kate Lowther (Coleg Brenhinol y Seiciatryddion), Gavin Dick (NRLA), Nigel Winnan (WWU), Elaine Robinson (Prifysgol Caerdydd), Jonathan Cosson (Cymru Gynnes), Liz Lambert (Cyngor Caerdydd), Joseph Carter (Asthma + Ysgyfaint UK), Joanna Seymour (Cymru Gynnes), James Adamson (GIG Cymru), Rebecca Brown (Ofgem), Jack Wilkinson-Dix (EST), Maureen Howell (Llywodraeth Cymru), Nina Ley (Llywodraeth Cymru), Catrin Stephenson (Llywodraeth Cymru), Gareth Phillips (Llywodraeth Cymru), Louisa Petchey (GIG Cymru), Claire Pearce-Crawford (Cartrefi Melin)

 

Ymddiheuriadau

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Ceri Cryer, Age Cymru

 

 

Crynodeb o'r drafodaeth

 

1. Croeso a chyflwyniad

 

·         Mark Isherwood AS (Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol) Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol. Rhoddodd drosolwg o'r agenda ar gyfer y cyfarfod, gan gynnwys y gweithdrefnau ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Grŵp. Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu cadarnhau fel cofnod gwir a chywir gan Jonathan Cosson (Cymru Gynnes) a Clare Durkin (NEA). Yn dilyn enwebiad gan Sioned Williams AS, cafodd Mark Isherwood AS ei ailethol yn ddiwrthwynebiad fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer 2022-2023. Cafodd Ben Saltmarsh (NEA) ei ailethol yn ddiwrthwynebiad fel Ysgrifennydd y Grŵp. Cafodd ei enwebiad ei gynnig gan William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion) a chafodd ei eilio gan Cara Holmes (Cyngor ar Bopeth Cymru).

 

·         Ben Saltmarsh (Pennaeth Cymru, NEA, ac Ysgrifennydd y Grŵp Trawsbleidiol):  Darparodd y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sydd i’w gweld o ran yr argyfwng ynni. Roedd hyn yn cynnwys crynodeb o Warant Pris Ynni Llywodraeth y DU a’r cymorth traws-lywodraethol sydd ar gael ar hyn o bryd, ochr yn ochr â phryderon NEA a’r galwadau ar Lywodraeth y DU ac Ofgem. Ailadroddodd Ben y ffaith bod angen mwy o gymorth a mesurau diogelu pellach, wedi’u targedu, ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt fwyaf yn ystod y gaeaf a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys galwadau parhaus yr NEA am dariff cymdeithasol gorfodol a’r pryderon parhaus sy’n bodoli ymhlith aelwydydd y mae gofyn iddynt dalu am eu hynni ymlaen llaw. Hefyd, rhoddodd Ben ddiweddariad i’r Grŵp am y newyddion y bydd cynllun newydd sy’n ymateb i’r galw (fel rhan o’r Rhaglen Cartrefi Clyd) yn cael ei gaffael a’i roi ar waith erbyn tymor y gaeaf 2023. Daeth Ben â’i gyflwyniad i ben drwy dynnu sylw at rai digwyddiadau sydd yn yr arfaeth, gan gynnwys Diwrnod Ymwybyddiaeth Tlodi Tanwydd NEA. Hefyd, cadarnhaodd y ffaith mai dydd Llun 13 Chwefror 2023 yw dyddiad cyfarfod nesaf y Grŵp, a’r ffaith bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn bwriadu dod i’r cyfarfod hwnnw.

 

2. Sylwadau gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

 

·         Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp Trawsbleidiol am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd, gan ateb cwestiynau ar y mater.

·         Ailadroddodd y Gweinidog y sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU, gan gynnwys yr achos dros osod tariff ynni domestig cymdeithasol sy'n is na'r cap ar brisiau neu’r Warant Pris Ynni, ochr yn ochr â threth ffawdelw ar yr elw gormodol a wneir gan gwmnïau ynni. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i bryderu nad yw’r Warant Pris Ynni yn darparu’r cymorth priodol, wedi’i dargedu, i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

·         Ers mis Hydref 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £380 miliwn mewn mynd i’r afael â’r argyfwng, gan gynnwys ehangu’r Gronfa Cymorth Dewisol a Chynllun Cymorth Tanwydd Cymru, a lansio Cynllun Talebau Tanwydd cenedlaethol gyda’r Sefydliad Banc Tanwydd. Hyd yma, mae tua 230,000 o aelwydydd wedi cael mynediad at Gynllun Cymorth Tanwydd Cymru yn y rownd hon.

·         Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru, gan dynnu sylw at ei Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, sy’n mynd rhagddi, yn ogystal â gwelliannau a wnaed i'r system ynni solar ffotofoltäig a’r system ar gyfer storio ynni mewn batris, a hynny mewn perthynas â chynllun Nyth. Disgwylir £35 miliwn mewn cyllid ychwanegol ar gyfer cynllun Nyth ym mhob un o’r ddwy flynedd ariannol nesaf, a bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a gyflwynir gan gynllun ECO4.

·         Mae’r Gweinidog hefyd wedi cwrdd yn ddiweddar â chyflenwyr ynni amrywiol, yn sgil ei phryderon  ynghylch adroddiadau bod pobl yn cael eu trosglwyddo i fesuryddion rhagdalu ac yn wynebu sefyllfa o hunan-ddatgysylltu. Rhoddwyd sicrwydd i Lywodraeth Cymru na fyddai cartrefi’n cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu pe byddai ganddynt ôl-ddyledion, ac y byddai data parhaus yn cael eu rhannu.

 

Sesiwn holi ac ateb gyda’r Gweinidog

 

·         William Jones (Cyngor ar Bopeth Ceredigion): Gofynnodd a fyddai Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru a'r Cynllun Talebau Tanwydd cenedlaethol yn parhau i gael eu gweithredu yn 2023/24. Ymatebodd y Gweinidog drwy egluro y bydd y Gyllideb Ddrafft nesaf yn cael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae’r gyllideb o dan gryn bwysau yn dilyn Datganiad yr Hydref.

·         Bethan Sayed (Climate Cymru): Gofynnodd a yw Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod ganddi gynrychiolaeth ar Dasglu Effeithlonrwydd Ynni Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Dywedodd y Gweinidog y bydd swyddogion yn cael rhagor o wybodaeth am hyn. Mae’r agenda effeithlonrwydd ynni yn bwysig iawn, o ystyried cyflwr gwael ein tai.

·         Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru): Gofynnodd a fyddai modd i’r Gweinidog roi sylwadau ar sut y mae iechyd meddwl, iechyd corfforol a llesiant meddyliol a chorfforol yn cael eu hystyried fel rhan o’r ymateb tymor byr a thymor hwy i’r argyfwng. Eglurodd y Gweinidog fod y Prif Weinidog wedi sefydlu Is-bwyllgor Cabinet ar yr argyfwng er mwyn ysgogi gwaith traws-lywodraethol, ac mae’n parhau i gymryd tystiolaeth yn barhaus, gan ei fod yn awyddus i sicrhau bod pob cyswllt yn cyfri.

·         Meilyr Tomos (Cyngor Gwynedd): Gofynnodd a fyddai modd i’r Gweinidog roi sylwadau ar y lefel uchel o’r stoc tai nad yw’n cydymffurfio (-65 o ran y Weithdrefn Asesu Safonol) â Safonau Ansawdd Tai Cymru yng Ngwynedd. Gofynnodd hefyd sut y gall rhanddeiliaid gael gwybodaeth am bartneriaid y Sefydliad Banc Tanwydd sydd wedi’u gwasgaru ledled Cymru. Nododd y Gweinidog y pwynt a wnaed ar Safonau Ansawdd Tai Cymru fel pwynt y byddai swyddogion yn ei gymryd i’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Cadarnhaodd y byddai swyddogion yn gwneud gwaith dilynol er mwyn cael rhagor o fanylion ynghylch pwy yw partneriaid y Cynllun Talebau Tanwydd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

·         Sioned Williams AS: O ystyried y bydd ychydig o oedi cyn yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, ac o ystyried y cynnydd mawr a welwyd mewn tlodi tanwydd difrifol, gofynnodd am y newidiadau sy’n cael eu gwneud i gynllun presennol Nyth er mwyn hwyluso’r broses o gyfuno’r gwaith a wneir ar ffabrig a systemau inswleiddio cartrefi, yn ogystal ag ailosod systemau gwresogi. Atebodd y Gweinidog drwy ddweud y bydd cynllun presennol Nyth yn parhau i weithredu hyd nes y bydd y cynllun nesaf yn weithredol, ac mai’r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd yn y sefyllfa orau i ateb cwestiynau pellach am y Rhaglen newydd. Mae hi’n bwriadu dod i gyfarfod nesaf y Grŵp ym mis Chwefror. Cadarnhaodd y swyddogion y byddant yn darparu diweddariad ysgrifenedig i'r Grŵp Trawsbleidiol yn y cyfamser.

·         Claire Pearce-Crawford (Cartrefi Melin): Mynegodd bryder ynghylch y ffaith nad yw taliadau Llywodraeth y DU yn cyrraedd tenantiaid mewn achosion lle mae landlordiaid yn gyfrifol am filiau ynni, ac ynghylch lefel y Taliad Tanwydd Amgen gan Lywodraeth y DU, sef £200, o ystyried bod y cyflenwad lleiaf o olew sy’n ofynnol yn costio teirgwaith y swm hwn o leiaf ar hyn o bryd.

·         Daeth y Gweinidog â’i chyfraniad i ben drwy ddiolch i bawb am eu hymdrechion ar y rheng flaen, gan nodi ei bod yn dibynnu ar yr NEA i ddarparu tystiolaeth ac i’w herio. Cadarnhaodd y Gweinidog y bydd swyddogion yn darparu diweddariadau ysgrifenedig i Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol cyn diwedd y tymor hwn ar y materion a ganlyn:

o   y cynllun Nyth presennol a'r Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf;

o   sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â chost olew gwresogi;

o   materion sy’n ymwneud â thenantiaid (mewn achosion lle mae'r landlord wedi'i enwi ar y bil ynni); a

o   gwybodaeth ynghylch partneriaid y Cynllun Talebau Tanwydd sydd wedi’u gwasgaru ledled Cymru.

 

3. Bethan Sayed (Cydlynydd Ymgyrchu, Climate Cymru)

 

·         Gwnaeth Bethan gyflwyniad ar yr ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma a’i galwadau allweddol ar Lywodraeth Cymru (a Llywodraeth y DU) i ymateb i’r argyfwng costau byw, yr argyfwng ynni, a’r argyfwng hinsawdd mewn modd cydgysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys galwadau am gymorth brys, ynni fforddiadwy, a rhaglen effeithlonrwydd ynni uchelgeisiol drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd, at ddibenion cefnogi’r rhai yr effeithir arnynt waethaf yn gyntaf, gan flaenoriaethu mesurau ffabrig. Rhoddodd Bethan wybodaeth i’r Grŵp ynghylch Diwrnod Gweithredu ar Dlodi Tanwydd, sef digwyddiad a gynhelir gan yr ymgyrch ar 3 Rhagfyr. Yn ogystal, cododd y mater o gael system fudd-daliadau i Gymru.

 

4. Cara Holmes (Uwch Ymchwilydd Polisi, Cyngor ar Bopeth Cymru)

 

·         Rhoddodd Cara gyflwyniad ar adroddiad gan Gyngor ar Bopeth Cymru sydd yn yr arfaeth, sef Grinding to a halt? Mae’r adroddiad yn sôn am ddileu’r rhwystrau i wella effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio tai preifat yng Nghymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi’r pryderon a fynegwyd droeon ynghylch y ffaith bod cynllun Nyth wedi dod yn gynllun ar gyfer ailosod boeleri, i raddau helaeth, er gwaethaf y ffaith mai bwriad y cynllun oedd mabwysiadu dull cartref cyfan o roi mesurau ar waith (hynny yw, 'gwaethaf yn gyntaf' a 'ffabrig yn gyntaf'). Mae cartrefi sy’n gollwng ynni yn gwastraffu arian – tua £350 y flwyddyn ar gyfer EPC D ac oddeutu £1,000 y flwyddyn ar gyfer EPC G – sy’n golygu bod defnyddwyr Cymru yn talu hyd at £440 miliwn y flwyddyn mewn costau ychwanegol. Yn ogystal, gwnaeth Cara godi materion sy’n ymwneud â diffyg cyllid, cyngor ac ymwybyddiaeth, ynghyd ag opsiynau cyllid ar gyfer y rhai sy'n 'gallu talu'. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir.

 

 

5.       Y cyfarfod nesaf

 

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol yn bwriadu cynnal ei gyfarfod nesaf ar 13 Chwefror 2023, a hynny yng nghwmni’r Gweinidog Newid Hinsawdd. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu ag aelodau’r grŵp maes o law.